Welsh Charity Awards 2024 – Gwobrau Elusennau Cymru 2024 The Welsh Charity Awards are back! The awards, organised by WCVA, recognise and celebrate the fantastic contribution charities, community groups, not-for-profits and volunteers make to Wales by highlighting and championing the positive difference we can make to each other’s lives. (Cymraeg) This is your chance to celebrate the life changing impact of not only charities but volunteers and voluntary organisations of all shapes and sizes in Wales. Whether or not they’re an award winner or finalist, being nominated for an award shows an organisation or individual that their work is valued and makes a huge difference. The Categories There are eight categories in this year’s Welsh Charity Awards: Volunteer of the Year (26 and over) Young Volunteer of the Year (25 and under) Fundraiser of the year Champion of diversity award Best use of Welsh language award Most influential small organisation Health and wellbeing award Organisation of the year award Taking Part Making a nomination is easy, simply visit the Welsh Charity Awards website, read the rules and complete the online form. Please take this opportunity to shout about your favourite voluntary organisation or volunteer, and give them the chance of getting some well-earned recognition and a glitzy night to remember at the Welsh Charity Awards ceremony. For more information and to nominate, click here The deadline for nominations is 13th September 2024. The Welsh Charity Awards are made possible thanks to headline sponsor The Open University Wales and the other category sponsors. Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl! Mae’r gwobrau, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd. Dyma eich cyfle i ddathlu effaith drawsnewidiol elusennau, gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yng Nghymru. P'un a ydyn nhw'n enillydd neu yn y rownd derfynol, mae cael eu henwebu am wobr yn dangos mudiad neu unigolyn bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Y Categorïau Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni: Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn) Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau) Codwr arian y flwyddyn Gwobr Hyrwyddwr Amrywiaeth Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg Mudiad bach mwyaf dylanwadol Gwobr iechyd a lles Gwobr Mudiad y Flwyddyn Cymryd Rhan Mae enwebu rhywun yn hawdd, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru, darllenwch y rheolau a llenwi’r ffurflen ar-lein. Achubwch ar y cyfle hwn i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr, a rhoi’r cyfle iddo gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson hudol i’w chofio yn seremoni Gwobrau Elusennau Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Medi 2024. Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i’n prif noddwr Y Brifysgol Agored Cymru a noddwyr y categorïau eraill. Manage Cookie Preferences