(Click here for English)

Merched y Wawr logoBron i hanner canrif yn ôl, yn 1967, cafodd cangen gyntaf Merched y Wawr ei sefydlu ym mhentref bach y Parc ger Y Bala, Sir Feirionnydd. Erbyn hyn mae dros 250 o ganghennau a 7,000 o aelodau ledled Cymru yn cyfarfod unwaith y mis i fwynhau pob math o weithgareddau ac i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

At hyn mae gan y mudiad Ganolfan hardd yn Aberystwyth, Cyfarwyddwr Cenedlaethol a nifer o swyddogion yn y swyddfa a’r rhanbarthau amrywiol. Yma, yn Abertawe, mae gennym saith cangen: Lon-las, Treboeth, Treforys, Pontarddulais, Abertawe, Clydach a Gorseinon ac mae canghennau Pontarddulais a Gorseinon gyda’r mwyaf yng Nghymru gyda thua 50-60 o aelodau'r un. Mae ardal Abertawe yn rhan o Ranbarth Gorllewin Morgannwg, lle mae canghennau Castell Nedd, Pontardawe, Cwm Nedd, Y Gwter Fawr, Afan a Gwaun Gors yn sir Castell Nedd Port Talbot.

Dechreuodd y mudiad pan benderfynodd cangen y Parc dorri i ffwrdd oddi wrth Sefydliad y Merched am ei bod yn anfodlon fod y Sefydliad yn anfon papurau swyddogol uniaith Saesneg i ganghennau a gynhaliai eu holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Saesnes, Zonia Bowen, ynghyd â dwy aelod leol, Sylwen Davies a Lona Pugh, arweiniodd yr ymgyrch ac mewn cyfarfod ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967 daeth tyrfa dda ynghyd i gefnogi sefydlu mudiad newydd sbon i fenywod yng Nghymru. Tyfodd fel caseg eira. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae Merched y Wawr a Sefydliad y Merched yn cydweithio’n hapus ar nifer o brosiectau i hyrwyddo buddiannau menywod a diogelu cefn gwlad yng Nghymru.

Merched y Wawr - Cerdded Caswell gorau - walking group in CaswellBeth felly sy’n mynd ymlaen mewn cangen leol? Gallwch ddisgwyl sgyrsiau am bob math o bethau: o hen  bethau, trefnu blodau, coginio, hanes yr ardal neu deithiau tramor, i weithgareddau fel dawnsio llinell, ioga, gwneud broetsys ac yn y blaen neu nosweithiau cerddorol neu fwynhau drama. Rhaid cynnwys ambell noson allan yn ciniawa ar raglen amrywiol pob cangen ac ambell wibdaith i siopa a gweld lleoedd hanesyddol diddorol. Mae croestoriad rhyfeddol o aelodau ym mhob cangen, a phawb yn cymysgu i gymdeithasu ar ddiwedd pob sesiwn yn llawn hwyl a brwdfrydedd. Yn wir mae’r gangen leol yn cynnig teulu newydd croesawgar i aelodau hen a newydd. Mae croeso arbennig i ddysgwyr hyderus i’n plith ac mae’n ffordd wych i’r dysgwyr hyn fentro allan o’u dosbarthiadau a dechrau defnyddio’r iaith mewn sefyllfa normal. Yn wir mae gan gangen Abertawe sawl dysgwr brwd ac maen nhw, yn eu tro, yn cyfoethogi’r gangen gyda’u syniadau newydd a gwahanol. Mae gan ambell gangen glwb cerdded, e.e. mae Pontarddulais a Gorseinon yn ‘Camu Mlaen’ bob bore dydd Mawrth ledled y rhanbarth a thu hwnt ac felly’n cadw’n heini ac iach. Mae’r ddwy gangen hyn hefyd yn dod ynghyd ryw chwe gwaith y flwyddyn i drafod llyfrau yn y Gymraeg. Mae’r ddau weithgaredd hyn ar agor i bob aelod.

Yn y Rhanbarth rydym yn cymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol bob mis Tachwedd gan gystadlu yn erbyn aelodau o dros Gymru. Caiff yr enillwyr cenedlaethol eu cyhoeddi ar Radio Cymru am ddeg o’r gloch y nos a hir yw’r aros i glywed pwy yw’r pencampwyr bob blwyddyn! Yna, yn y gwanwyn byddwn yn cynnal Noson Chwaraeon, i chwarae dartiau, dominos a chwaraeon bwrdd eraill, gan gynnwys Sgrabl yn y Gymraeg. Yn ystod tymor yr haf daw cyfle i fynychu’r Ŵyl Haf Genedlaethol ym Machynlleth ac mae canghennau’r Rhanbarth wedi cipio gwobrau cyntaf sawl tro yn y sgets a’r cyflwyniad dramatig. Dyma pryd y byddwn yn cystadlu yn y Sioe fawr yn Llanelwedd ar grefftau a choginio hefyd ac yna ym mis Medi cawn wledd o adloniant ac addysg yn ein Penwythnos Preswyl cenedlaethol Yn sicr mae bod yn aelod o Ferched y Wawr yn ffordd dda iawn o ddysgu sgiliau newydd ac mae’n cynnig cyfleoedd o bob math i ddefnyddio’r sgiliau hynny.

Yr ydym fel aelodau cyfrifol yn codi llawer o arian yn lleol ac yn genedlaethol dros elusennau gwahanol. Eleni mae’r Llywydd Cenedlaethol, Meryl Davies, wedi dewis cefnogi Sefydliad y Galon yng Nghymru gan gofio bod clefyd y galon yn effeithio ar fenywod yn ogystal â dynion. Felly rydym wrthi’n brysur yn casglu ategolion i’w gwerthu yn y Sioe ac mewn Eisteddfodau. Y llynedd casglu bagiau oedd y nod a llwyddwyd i godi dros £24,000 at Gymorth Cristnogol. Cyn hynny buom yn boddi mewn esgidiau dros Gronfa Achub y Plant a bras dros Oxfam – mae ein haelodau mor hael ac mor barod i gefnogi achosion da o’r fath.

Hoffem estyn croeso cynnes i unrhyw fenyw a hoffai ymuno â Merched y Wawr yn ardal Abertawe. Cymraeg yw iaith y mudiad a chynhelir ein gweithgareddau i gyd yn y Gymraeg – felly dyma gyfle gwych i wneud ffrindiau oes trwy gyfrwng y Gymraeg. Cewch groeso cynnes gennym. Catrin Stevens (Ysgrifennydd Rhanbarth) Cewch fwy o wybodaeth o’r wefan www.merchedywawr.cymru

Baner: Cyflwyniad dramatig ar fenywod y rhanbarth: portreadu Gwragedd y Glowyryn ystod Streic 1984-5


Merched y Wawr Swansea

Merched y Wawr logoMerched y Wawr (literally Women of the Dawn) was established in 1967 in the tiny village of y Parc near Bala in Merionethshire. The local branch of the Women’s Institute decided to break away from this organisation because of its monolingual English-language policy and eventually a new movement was born.

The aim of Merched y Wawr is to organise all kinds of activities for women through the medium of Welsh. From humble beginnings the movement now has over 250 branches all over Wales with c. 7000 members, a National Centre in Aberystwyth and a National Director. Members come from all kinds of backgrounds and both young and older women are valued greatly. Welsh learners who wish to hone their language skills are particularly welcome and have found the opportunity to talk Welsh naturally and socially outside their usual language classes very valuable and worthwhile. In return the enthusiastic learners have enriched our local branches.

Merched y Wawr - Cerdded Caswell gorau - walking group in CaswellIn the Swansea area we have seven branches and they form part of the West Glamorgan District with 6 other branches in Neath Port Talbot. Members meet once a month to enjoy talks on all kinds of topics, to learn new skills and to make new and lasting friendships. Some branches have established walking clubs to help the membership to keep fit and healthy and others have set up book groups to read and discuss the latest works in Welsh.

Members can also participate in all kinds of district and national activities, including a National Quiz night with the results announced on Radio Cymru, and a Games Tournament and opportunities to compete on literary, dramatic presentations and craft competitions in the National Festival in May every year. Members have also raised huge amounts of money for local and national charities over the years. In 2015 the National President, Meryl Davies, has asked the members to donate accessories which are sold to promote the work of the British Heart Foundation and to raise awareness of this disease among women.

Altogether Merched y Wawr is a lively and vibrant movement and we extend a very warm welcome to new members. Please contact: Catrin Stevens (District Secretary) [email protected] or telephone: 01792 893410

Banner: Dramatic presentation of the miners’ wives 1984-5 Strike